Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 10 Gorffennaf 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:15 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Celia Hunt, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Dr David Blaney, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Bethan Owen, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Ymchwiliad i Ardaloedd Menter yng Nghymru - Adborth ar ymweliadau’r Pwyllgor ag Ardaloedd Menter Ynys Môn a Dyfrffordd y Daugleddau
2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn: Eitemau 4, 5, 6 a 7
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
4 Goblygiadau Ariannol y Bil Sector Amaethyddol
4.1 Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog (gan anfon copi at bob Aelod) yn amlinellu eu pryderon cyn ail ddarlleniad y Bil.
5 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch - Sesiwn friffio gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
5.1 Rhoddodd cynrychiolwyr o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) drosolwg i’r Pwyllgor o sut y caiff Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru eu hariannu.
5.2 Cytunodd HEFCW i ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
Nodyn ar gyllid yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesedd sy’n mynd drwy Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.
6 Adolygiad o’r flwyddyn
6.1 Gwahoddwyd y Pwyllgor i adolygu ei waith dros y flwyddyn flaenorol.
7 Rheoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus - trafod yr adroddiad drafft
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar fân newidiadau drafftio.